OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1998 (Cy. 199)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011. Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i’r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol, ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol dau a thri, a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhieni disgyblion cofrestredig sy’n cael eu hasesu mewn unrhyw gyfnod allweddol ofyn amdani.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 drwy—
(a) mewnosod diffiniad newydd o “Gorchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013” (rheoliad 2(2));
(b) mewnosod rheoliad 3(3) newydd sy’n nodi pa wybodaeth yn yr Atodlen i Reoliadau 2014 y mae rhaid ei chynnwys yn adroddiad y pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol (rheoliad 2(3) a (6)(a));
(c) hepgor rheoliad 4(4) a mewnosod rheoliad 4A newydd. Mae rheoliad 4A a Rhan 5 o Reoliadau 2014 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn adroddiad y pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion pan fydd y disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen, neu gyfnodau allweddol dau neu dri (rheoliad 2(4) a (5). Mae Rhan 5 wedi ei mewnosod gan reoliad 2(6)(c)); a
(d) hepgor Rhannau 4A a 4B a’u hailddeddfu fel paragraff 1(1) a (2) newydd yn Rhan 1 (rheoliad 2(6)(a) a (b)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2014 Rhif 1998 (Cy. 199)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014
Gwnaed 23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym 1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011([3]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “Gorchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013” (“Educational Programmes and Programmes of Study Order 2013”) yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013([4]).”
(3) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyflawniadau addysgol y disgybl neu’r disgybl sy’n oedolyn y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i’w riant a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r disgybl hwnnw a nodir—
(a) ym mharagraff 1 o Ran 1 o’r Atodlen pan fo’r disgybl hwnnw yn y cyfnod sylfaen, yng nghyfnod allweddol dau neu yng nghyfnod allweddol tri;
(b) ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o’r Atodlen a Rhan 2 o’r Atodlen, pan fo’r disgybl hwnnw yng nghyfnod allweddol dau, tri neu bedwar;
(c) yn Rhan 3 o’r Atodlen, pan gofnodwyd enw’r disgybl hwnnw ar gyfer unrhyw gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ar lefel FfCC 3 neu’n uwch na hynny; ac
(ch) yn Rhan 4 o’r Atodlen.”
(4) Yn rheoliad 4 hepgorer paragraff (4).
(5) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
“Gwybodaeth diwedd y cyfnod sylfaen a diwedd cyfnod allweddol dau a thri
4A. Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth yn Rhan 5 o’r Atodlen pan fo’r disgybl ym mlwyddyn olaf—
(a) y cyfnod sylfaen;
(b) cyfnod allweddol dau; neu
(c) cyfnod allweddol tri.”
(6) Yn yr Atodlen—
(a) yn lle paragraff 1 o Ran 1 rhodder—
“Disgyblion yn y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol dau a thri
1.—(1) Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhelir yn unol â’r trefniadau asesu a bennwyd gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
(2) Crynodeb byr o gynnydd y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ychwanegol a’r rhaglenni astudio ychwanegol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”;
(b) hepgorer Rhan 4A a Rhan 4B; ac
(c) ar ôl Rhan 4 mewnosoder—
“ Rhan 5
Disgyblion ar ddiwedd y cyfnod sylfaen
8.—(1) Mewn perthynas â phob maes dysgu perthnasol, disgrifiad byr o bob deilliant cyfnod sylfaen a gyrhaeddodd y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu perthnasol hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(2) Mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu eraill, datganiad byr o’r lefel cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(3) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yn y cyfnod sylfaen mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
Disgyblion ar ddiwedd cyfnodau allweddol dau a thri
9.—(1) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol dau mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
(2) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol tri mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014
([1]) 1996 p. 56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) ac Atodlen 31 iddi, paragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) a chan O.S. 2010/1158.
([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.